Croeso i Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru
Ariennir yr Ysgol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi adeiladu galluedd ymchwil ym maes gofal cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Prif nodau’r Ysgol yw:
NOD 1: Arwain a hyrwyddo datblygiad diwylliant o feddylfryd ymchwil, ymarfer a gyfoethogir gan dystiolaeth, a gweithgaredd ymchwil mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
NOD 2: Cynyddu swm ac ansawdd yr ymchwil gofal cymdeithasol mewn ymarfer a’r maes academaidd drwy ddarparu arweinyddiaeth.
NOD 3: Helpu i ddatblygu, gwella a chefnogi cyfranogiad gan y cyhoedd mewn ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru.
NOD 4: Helpu i adnabod blaenoriaethau ymchwil gofal cymdeithasol a bylchau gwybodaeth yng Nghymru, a chynorthwyo’r sector i fynd i’r afael â’r meysydd hynny.
03.05.2019
Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru Gwobr Ysgoloriaeth Gofal Cymdeithasol 2019.
Ar Agor Naw: Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru Gwobr Ysgoloriaeth Gofal Cymdeithasol 2019.
Darllen mwy06.11.2018
Technoleg Iechyd Cymru – Swydd Wag – Partner Cynhoeddus
Ydych chi eisiau helpu i lunio sefydliad a sicrhau bod cynnwys y cleifion a'r cyhoedd yn effeithiol? Mae hwn yn gyfle cyffrous i gymryd rhan yn y cam datblygu, ac i helpu i sicrhau bod Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn llwyddiannus yn y fenter hon.
Darllen mwy